News > Latest News
NHS Wales and Ponthafren support helped runner beat fitness addiction
A Powys runner who became consumed by a fitness addiction has told how he found life-changing support through Ponthafren.
Wayne Davies, 40, spiralled into anxiety and lost sleep as he obsessed over race times, training plans and fitness data.
But through Ponthafren’s ‘blended’ service, which combines one-to-one support with NHS Wales’ online mental health platform, SilverCloud, he learned practical techniques to manage his thoughts and regain control of his wellbeing.
Speaking out ahead of World Mental Health Day on October 10, Wayne said: “I was constantly worrying and felt like the rug had been pulled from under my feet.
“I was at a real low point, but the support I had from Ponthafren and SilverCloud helped me put things into perspective. “I still love running, but it no longer defines my happiness. I can finally enjoy it again and I’m managing my anxiety. I feel like I’ve got my life back.”
Wayne, a sales engineer, started running around 10 years ago and quickly progressed from casual jogs to marathons and then ultra-distances, including a gruelling 75-mile race around the Llŷn Peninsula.
But what began as a way of keeping fit gradually became an unhealthy fixation.
”I became obsessed with trying to do longer and longer distances” Wayne said.
”Then I started focusing on times. I was never happy, and always chasing the next challenge or trying to get a better time.”
“If I didn’t succeed, it felt like the end of the world. If I did, I was always looking for the next goal. I never stopped to appreciate what I’d achieved.”
Wayne’s struggles intensified following a heart scare during a training run.
He was diagnosed with atrial fibrillation, which causes an irregular heartbeat.
Although he returned to running after treatment, he constantly worried the condition would recur.
Wayne, from Newtown, explained: “At first, I thought I’d never run again. The more I got back into it, gradually building up my fitness, the more it became an obsession.”
As his focus on performance grew, Wayne found himself constantly checking fitness data and comparing himself with other runners on social media.
His sleep suffered, his concentration declined and anxiety began affecting other areas of his life, including relationships.
Concerned friends and family encouraged him to seek help through his GP, who signposted him to Ponthafren.
”A lot of men think talking about how they feel is a sign of weakness, and I admit I did feel a bit ashamed at first,” Wayne said.
“But taking that first step was probably the best thing I ever did.”
Wayne enrolled on SilverCloud’s ‘Space from Anxiety’ programme and worked through the 12-week course with support from a Ponthafren practitioner.
Said Wayne: “I learned how to manage my thoughts and let things go.
“The techniques made me feel much calmer. The breathing exercises were a particular help, and I still use them now.”
He is currently training for the Snowdonia Marathon in two weeks’ time – but with a very different outlook.
”I’m not worried about times anymore”; he said. ”I just want to do the best I can on the day and enjoy it.”
Wayne believes more men should feel comfortable reaching out for support when they need it.
“You’ve got to be brave enough to say, ”I need help” he said.
”People do want to listen and there are tools out there that can help. It’s not as scary as you think.”
SilverCloud Wales offers free online support for common mental health challenges including depression, anxiety, stress and poor sleep, to people aged 16 and over across Wales.
Ponthafren’s blended service combines SilverCloud alongside guidance from a trained practitioner.
———————
Cymorth gan GIG Cymru a Ponthafren i redwr oresgyn caethiwed i ffitrwydd
Mae rhedwr o Bowys a gafodd ei leddfu gan gaethiwed i ffitrwydd wedi dweud sut y daeth o hyd i gefnogaeth a newidiodd ei fywyd drwy’r elusen yn y Drenewydd, Ponthafren.
Aeth Wayne Davies, 40, i orbryder difrifol a chollodd gwsg wrth iddo fod yn obsesiynol dros amseroedd rasys, cynlluniau hyfforddi a data ffitrwydd.
Ond drwy wasanaeth ‘cyfunol’ Ponthafren, sy’n cyfuno cefnogaeth un-i-un â llwyfan iechyd meddwl ar-lein GIG Cymru, SilverCloud, dysgodd dechnegau ymarferol i reoli ei feddyliau ac adennill rheolaeth dros ei les.
Wrth siarad cyn Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd ar Hydref 10, dywedodd Wayne: “Roeddwn i’n poeni’n gyson ac yn teimlo fel pe bai’r ryg wedi cael ei dynnu o dan fy nhraed.
“Roeddwn i mewn pwynt isel iawn, ond fe helpodd y gefnogaeth a gefais gan Ponthafren a SilverCloud fi i roi pethau mewn persbectif.
“Rwy’n dal i garu rhedeg, ond nid yw bellach yn diffinio fy hapusrwydd. Dw i o’r diwedd yn gallu ei fwynhau eto a dw i’n rheoli fy ngorbryder. Rwy’n teimlo fel fy mod i wedi cael fy mywyd yn ôl.”
Dechreuodd Wayne, peiriannydd gwerthu, redeg tua 10 mlynedd yn ôl a symudodd yn gyflym o loncian hamddenol i farathonau ac yna pellteroedd hir, gan gynnwys ras 75 milltir anodd o amgylch Penrhyn Llŷn.
Ond yn raddol, daeth yr hyn a ddechreuodd fel ffordd o gadw’n heini yn obsesiwn afiach.
“Drodd yn obsesiwn o geisio gwneud pellteroedd hirach a hirach,” meddai Wayne.
“Yna dechreuais ganolbwyntio ar amseroedd. Doeddwn i byth yn hapus, ac yn rhedeg ar ôl yr her nesaf neu’n ceisio cael amser gwell bob amser.
“Os na fyddwn i’n llwyddo, byddai’n teimlo fel diwedd y byd. Os gwnes i, roeddwn i bob amser yn chwilio am y gôl nesaf. Wnes i byth stopio i werthfawrogi’r hyn roeddwn i wedi’i gyflawni.”
Gwaethygodd anawsterau Wayne yn dilyn braw ar y galon yn ystod rhediad hyfforddi.
Cafodd ddiagnosis o ffibriliad atrïaidd, sy’n achosi curiad calon afreolaidd.
Er iddo ddychwelyd i redeg ar ôl triniaeth, roedd yn poeni’n gyson y byddai’r cyflwr yn dychwelyd.
Esboniodd Wayne, o’r Drenewydd: “Ar y dechrau, roeddwn i’n meddwl na fyddwn i byth yn rhedeg eto. Po fwyaf y des i’n ôl i mewn iddo, gan adeiladu fy ffitrwydd yn raddol, y mwyaf y daeth yn obsesiwn.”
Wrth i’w ffocws ar berfformiad dyfu, roedd Wayne yn gwirio data ffitrwydd yn gyson ac yn cymharu ei hun â rhedwyr eraill ar gyfryngau cymdeithasol.
Dioddefodd ei gwsg, gostyngodd ei ganolbwyntio a dechreuodd gorbryder effeithio ar feysydd eraill o’i fywyd, gan gynnwys perthnasoedd.
Anogodd ffrindiau a theulu pryderus ef i geisio cymorth trwy ei feddyg teulu, a’i cyfeiriodd at Bonthafren.
“Mae llawer o ddynion yn meddwl bod siarad am sut maen nhw’n teimlo yn arwydd o wendid, ac rwy’n cyfaddef fy mod i wedi teimlo ychydig o gywilydd ar y dechrau,” meddai Wayne.
“Ond cymryd y cam cyntaf hwnnw oedd y peth gorau i mi erioed ei wneud.”
Cofrestrodd Wayne ar raglen ‘Gofod o Orbryder’’ SilverCloud a gweithiodd drwy’r cwrs 12 wythnos gyda chefnogaeth gan ymarferydd o Bonthafren.
Dywedodd Wayne: “Dysgais sut i reoli fy meddyliau a gadael i bethau fynd.
“Gwnaeth y technegau i mi deimlo’n llawer tawelach. Roedd yr ymarferion anadlu o gymorth arbennig, ac rwy’n dal i’w defnyddio nawr.”
Ar hyn o bryd mae’n hyfforddi ar gyfer Marathon Eryri ymhen pythefnos – ond gyda golwg gwahanol iawn.
“Dydw i ddim yn poeni am amseroedd mwyach,” meddai. “Rydw i eisiau gwneud y gorau y gallaf ar y diwrnod a’i fwynhau.”
Mae Wayne yn credu y dylai mwy o ddynion deimlo’n gyfforddus yn estyn allan am gefnogaeth pan fydd ei hangen arnynt.
“Mae’n rhaid i chi fod yn ddigon dewr i ddweud, ‘Mae angen help arna i’,” meddai.
“Mae pobl eisiau gwrando ac mae yna offer ar gael a all helpu. Dydy o ddim mor frawychus ag yr ydych chi’n meddwl.”
Mae SilverCloud Cymru yn cynnig cymorth ar-lein am ddim ar gyfer heriau iechyd meddwl cyffredin gan gynnwys iselder, gorbryder, straen a chwsg gwael, i bobl 16 oed a hŷn ledled Cymru.
Mae gwasanaeth cyfunol Ponthafren yn cyfuno SilverCloud ochr yn ochr â chanllawiau gan ymarferydd hyfforddedig.
Registered Offices
Ponthafren in Newtown: Longbridge Street, Newtown, Powys SY16 2DY | +44 (0)1686 621586
Ponthafren in Welshpool: The Armoury, Brook Street, Welshpool SY21 7NA | +44 (0)1938 552770
Email: admin@ponthafren.org.uk
Ponthafren Charitable Incorporated Organisation (CIO): 1187482 (England & Wales)
Registered Charity Number: 1035326 (England & Wales)
